Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr

Ydych chi'n gofalu am rywun?
Ydych chi'n Ofalwr?

 

“ Gofalwr yw rhywun sy’n darparu cymorth a chefnogaeth di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog na all ymdopi ar ei ben ei hun oherwydd salwch, anabledd, eiddilwch, nam corfforol, salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau”.

Ydy hyn yn swnio fel chi? Os felly, rydych yn Ofalwr di-dâl . Mae gan Grŵp Meddygol Bro Pedr ddiddordeb mewn adnabod Gofalwyr, yn enwedig y bobl hynny a all fod yn gofalu heb gymorth na chefnogaeth. Gwyddom fod Gofalwyr yn aml yn “gudd” yn gofalu am aelod o’r teulu neu’n helpu ffrind neu gymydog gyda thasgau o ddydd i ddydd ac efallai na fyddant yn gweld eu hunain yn Ofalwr.

Teimlwn fod gofalu am rywun yn rôl bwysig a gwerthfawr yn y gymuned, sydd yn aml yn swydd 24 awr a all fod yn feichus iawn ac yn ynysig i’r Gofalwr.  

Gallwch lenwi ffurflen atgyfeirio a’i dychwelyd i’r feddygfa:
Ffurflen Gofrestru Gofalwyr Ceredigion
 

Effaith Pandemig Coronafeirws

Fel y gwyddoch fwy na thebyg mae effaith y pandemig coronafeirws ar fywydau gofalwyr di-dâl wedi bod yn enfawr, gyda llawer wedi colli mynediad at bob cymorth, gan gynnwys gwasanaethau gofal dydd a chymorth i deuluoedd. Gwyddom bellach fod 81% o ofalwyr yn darparu 10 awr ychwanegol o ofal yr wythnos, gyda llawer ohonynt yn jyglo eu rôl ofalu â’u cyfrifoldebau gwaith. Mae effaith hyn ar iechyd meddwl a chorfforol gofalwyr wedi bod yn hynod o niweidiol ac, yn anffodus, mae 44% o ofalwyr di-dâl bellach yn dweud eu bod wedi cyrraedd pen eu tennyn.


Pam fod Gofalwyr di-dâl yn hanfodol?

Mae Gofalwyr Di-dâl yn darparu tua 96% o’r Gofal yn y gymuned ac yn arbed dros £8.1 biliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae Grŵp Meddygol Bro Pedr yn cydnabod bod Gofalwyr yn cyfrannu arbediad sylweddol i’r GIG drwy ofalu am berthnasau, cymdogion neu ffrindiau a allai fel arall orfod mynd i ofal tymor hir. Gall Gofalwyr Ifanc, dan 18 oed fod yn arbennig o agored i niwed oherwydd eu diffyg profiad a diffyg sgiliau bywyd. Gall Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr, rhwng 18-25 oed bbod y grŵp mwyaf cudd o Ofalwyr yn ein cymdeithas. Felly, yng Ngrŵp Meddygol Bro Pedr rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ac ystyriaeth briodol i’n cleifion sy’n Ofalwyr beth bynnag fo’u hoedran.  

Cofrestru fel Gofalwr

Os ydych yn Ofalwr, cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni. Mae ffurflenni hefyd ar gael gan fudiadau gwirfoddol eraill ac ar wefan y Cyngor Sir.  

Pam ddylech chi gofrestru fel Gofalwr gyda'r feddygfa?

Gall cofrestru fel Gofalwr helpu eich tîm gofal iechyd i:

  • Deall eich cyfrifoldebau gofalu
  • Eich cyfeirio at wybodaeth, cymorth a chefnogaeth, naill ai nawr neu yn y dyfodol
  • Rhannu gwybodaeth am y person rydych yn gofalu amdano (gyda chaniatâd ysgrifenedig priodol)
  • Cynnig pigiad ffliw blynyddol i chi (am ddim)
  • Eich cyfeirio at wasanaethau neu sefydliadau eraill a allai eich helpu
  • Ein nod yw cynnig agwedd hyblyg at ymgynghoriadau a chael presgripsiynau os yw gadael person dibynnol yn anodd i chi  

Ein Cynorthwywyr Gofal Iechyd Kelly Davies ac Enfys Price yw ein Cydlynwyr Gofalwyr Practis . Gallwch siarad â nhw dros y ffôn neu wneud apwyntiad am sgwrs yn un o'u clinigau.  


Beth yw Asesiad Anghenion Gofalwr ?

Fel Gofalwr mae gennych hawl i gael Asesiad Anghenion Gofalwr gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n gyfle i siarad am eich anghenion fel Gofalwr a'r ffyrdd posibl o roi cymorth. Mae hefyd yn edrych ar anghenion y person rydych yn gofalu amdano. Gellid gwneud hyn ar wahân, neu gyda'i gilydd, yn dibynnu ar y sefyllfa. Ni chodir tâl am asesiad. Mae gan bob Gofalwr hawl i asesiad; fodd bynnag nid yw'n asesiad o'ch gallu i ddarparu gofal. Pan fyddwch chi'n cofrestru gyda ni fel Gofalwr, bydd y practis yn cynnig cyfle i chi gael eich atgyfeirio.


Sut i gael rhagor o wybodaeth

Mae gan y practis hysbysfwrdd Gofalwyr penodol yn yr ystafell aros gyda gwybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau lleol. Gellir dod o hyd i wybodaeth hefyd yn:  

Cymru/DU


Cynhalwyr Cymru

Gwefan i ddirwyo cymorth a chyngor i ofalwyr di-dâl, newyddion a chyrsiau hyfforddi.

https://www.carersuk.org/wales


Lwfans Gofalwr

Darganfod gwybodaeth a chyngor am gymorth ariannol sydd ar gael i chi

https://www.dewis.wales/lwfans-cynhalwyr-a-chynorthwy-ariannol

Share: