Neidio i'r prif gynnwy

Panoramic

Mae PANORAMIC yn astudiaeth glinigol sydd ar agor i bawb sy’n dioddef symptomau COVID-19 a ddechreuodd yn ystod y 5 diwrnod diwethaf; sydd wedi cael prawf PCR neu brawf llif unffordd positif; sy’n 50 oed neu’n hŷn; neu sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â chyflwr cronig megis clefyd y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), diabetes, neu gyflwr arall a restrir yma : https://www.panoramictrial.org/participant-information.
Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain yn genedlaethol gan ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen, ac mae’n cael ei gweithredu ar y cyd yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Phrifysgol Caerdydd.
Mae’r astudiaeth ei hun yn cael ei gweithredu o bell. Mae hynny’n golygu bod pobl yn gallu cymryd rhan o adref, drwy fod y tîm treialu’n postio unrhyw feddyginiaethau’n uniongyrchol atynt.

Share: