Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
25ain Mehefin 2021
O heddiw ymlaen (25 Mehefin 2021) bydd pobl yng Nghymru yn gallu cyrchu eu statws brechu ar y rhyngrwyd trwy Docyn COVID digidol y GIG os bydd angen iddynt deithio ar frys a chwrdd â'r gofynion brechlyn sy'n berthnasol i'r wlad y maent yn teithio iddi. Gellir cyrchu Tocyn COVID y GIG yma: www.gov.wales/get-nhs-covid-pass-show-your-vaccination-status-travel .
Mae mynediad i Docyn COVID y GIG yng Nghymru yn golygu y bydd prawf brechu ar gael i bobl ei ddangos ar eu ffôn, llechen neu liniadur a dylai fod yr opsiwn diofyn i bawb sydd angen prawf o statws brechu wrth deithio'n rhyngwladol.
Mae llythyrau pasio COVID y GIG wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y rhai sydd angen teithio'n rhyngwladol ar frys a darparu prawf o'u statws brechu, gyda thystysgrifau'n cael eu hanfon yn y post. Hyd yma gofynnwyd am bron i 15,000. Bydd y llythyrau yn parhau i gael eu cyhoeddi dim ond ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu cyrchu'r Tocyn digidol trwy Wasanaeth Ardystio Brechu Cymru (WVCS) , a ddarperir gan dîm olrhain cyswllt Cyngor Abertawe. Gall pobl ofyn am lythyr Pas COVID GIG dwyieithog trwy ffonio 0300 303 5667.
Nid yw'r Ap GIG a ddefnyddir yn Lloegr ar gael i bobl ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i integreiddio apiau GIG Lloegr a systemau GIG Cymru i ganiatáu i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio.
I ddechrau, bydd y Tocyn COVID ar gael yn Saesneg yn unig tra bydd y gwasanaeth dwyieithog yn cael ei ddatblygu. Bydd y WVCS yn parhau i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Mae ein cyngor yn aros yr un fath, rydym yn annog pobl i beidio â theithio dramor oni bai ei fod yn gwbl hanfodol.