Os yw'n well gennych gael apwyntiad ffôn, rhowch wybod i'r derbynnydd wrth archebu. Os nad yw apwyntiad ffôn yn addas ar gyfer eich amgylchiadau penodol chi, bydd y derbynnydd yn rhoi gwybod i chi.
Pan fyddwch yn ffonio, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'r derbynnydd er mwyn i'r Meddyg Teulu eich ffonio'n ôl. Mae'r derbynyddion yn rhwym i'r un rheolau cyfrinachedd â'n staff clinigol a dim ond i helpu'r meddygon y maent yn gofyn am y wybodaeth hon.
Fel arall, os nad yw eich problem yn un brys, defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein eConsult.