Neidio i'r prif gynnwy

Ffordd Newydd o Gael Mynediad at Gymorth a Lles Iechyd Meddwl

Ffordd Newydd o Gael Mynediad at Gymorth a Lles Iechyd Meddwl

Bydd un pwynt cyswllt ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl i bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael ei lansio ddydd Llun 20 Mehefin 2022.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol , gan gynnig cymorth i bob grŵp oedran drwy’r llinell alwad 111 sefydledig. O heddiw ymlaen bydd pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2 lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd iechyd meddwl.

Bydd y gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos o 9.00am hyd at 11.30pm, gyda chynlluniau ar waith i symud i oriau gweithredu 24/7 yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Share: