Neidio i'r prif gynnwy

Byw gyda Chanser?

YDYCH CHI'N BYW GYDA CHANSER?

Dewch i ddysgu SGILIAU HUNAN-RHEOLI newydd i'ch cefnogi. Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Cael noson dda o gwsg
  • Canser a newidiadau i'ch corff
  • Rheoli gweithgareddau dyddiol
  • defnyddio'ch meddwl i ymlacio
  • Ymdopi â hwyliau isel ac ansicrwydd
  • A llawer mwy

Pa bynnag heriau a ddaw yn sgil diagnosis canser, rydym yn gwybod y gall gofalu am eich iechyd a’ch lles wella ansawdd eich bywyd. Mae hwn yn gwrs GIG AM DDIM ac yn rhedeg am 2 1/2 awr yr wythnos am 6 wythnos. Mae ar gael i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi cael diagnosis o ganser.

I gael gwybod mwy ac i archebu lle cysylltwch â Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) ar 01554 899035 neu anfonwch e-bost atynt .

Share: